Y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd
Dydd Mawrth 6 Hydref 2015
Tŷ Hywel (Ystafell Gynadledda 21), Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd
Cofnodion
Yn bresennol:
Aelodau’r Cynulliad
Mark Isherwood AC
Ryland Doyle yn cynrychioli Mike Hedges AC
Lucas Leblanc, Cynorthwy-ydd Polisi ac Ymchwil, yn cynrychioli Julie Morgan AC
Rhanddeiliaid
Carole Morgan-Jones - NEA Cymru
Ben Saltmarsh, NEA Cymru
Andrew Regan - Cyngor ar Bopeth Cymru
Tomos Davies, NEA Cymru
Duncan McCombie, EST
Stew Horne, Ofgem
Daniel Bellis, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl
Nick Speed - Nwy Prydain
Ymddiheuriadau
Michael Anderson - SSE
Iwan Williams - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Shea Jones, Cartrefi Cymunedol Cymru
Crispin Jones - E.on
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
1.
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod diwethaf. Nid
oedd unrhyw faterion yn codi.
2.
Croesawodd Mark Isherwood y gwesteion i gyfarfod y Grŵp
Trawsbleidiol a gofynnodd i bawb gyflwyno’u
hunain.
3.
Rhoddodd Stew Horne, Uwch Reolwr Grymuso ac Ymddygiad
Defnyddwyr Ofgem, fraslun o’r hyn y mae Ofgem yn ei wneud
ynghylch y modd y mae cyflenwyr yn trin cwsmeriaid sy’n talu
ymlaen llaw a pha mor agored i niwed yw defnyddwyr, fel yr
amlinellwyd yn y strategaeth Consumer Vulnerability, a
gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2013.
4.
Ar hyn o bryd mae Ofgem yn ystyried ailddiffinio
‘agored i niwed’ i gydnabod y gall sefyllfa pobl
newid yn ystod eu bywydau hy cwsmeriaid mewn sefyllfaoedd agored i
niwed yn hytrach na chanolbwyntio ar gwsmeriaid agored i niwed fel
y cyfryw. Fel rhan o flaengynllun gwaith eu strategaeth,
byddant yn ystyried sut y mae cyflenwyr yn mabwysiadu'r
diffiniad newydd.
5.
Mae'r strategaeth Consumer Vulnerability yn cynnwys
diogelu cwsmeriaid sy’n defnyddio mesuryddion talu ymlaen
llaw (PPM) ; protocol pennu dyled, canllaw i gynghorwyr a
marchnadoedd a gwasanaethau cynhwysol fel ffocws ar Ynni: y Fargen
Orau ac Ynni: y Fargen Orau a Mwy (sesiynau 1 i 1) a'r Gofrestr
Blaenoriaethu Gwasanaethau.
6.
Roedd y meysydd gwaith eraill yn cynnwys ystyried cartrefi nad
oes ganddynt gyflenwad nwy a’r rhaglen i ehangu’r
rhwydwaith tlodi tanwydd, deall systemau gwresogi trydanol, ac ynni
cymunedol.
7.
O ran fforddiadwyedd, mae rhaglen waith Ofgem yn cynnwys y
gostyngiad Cartrefi Cynnes, rhwymedigaeth y cwmnïau ynni a
biliau clyfar. O ran dyledion a datgysylltu’r
cyflenwad, mae angen rhoi canllawiau cliriach i gyflenwyr, gan
gynnwys ystyried proses o wrthwynebu’r ddyled a sut y mae
cyflenwyr yn gwrthwynebu dyled. Fodd bynnag,
mae’r nifer sy’n cael eu datgysylltu’n lleihau,
ond gwelwyd cynnydd o 2% yn nifer y cwsmeriaid sy’n talu
ymlaen llaw drwy ddefnyddio mesuryddion talu, ac maent bellach yn
cyfrif am 4.5 miliwn o gyfrifon trydan a 3.4 miliwn o gyfrifon nwy
ledled y DU.
8.
Mae’r ffactorau sy’n rhwystro cwsmeriaid PPM rhag
newid eu cyflenwr yn cynnwys diffyg tariffau ar y farchnad,
tâl am osod a datgysylltu mesuryddion, blaendaliadau
diogelwch ac annhegwch yn y modd y cânt eu cymhwyso. Bu
cynnydd o 35% yn y broses warant i osod PPM ar gyfer nwy, a
chynnydd o 88% ar gyfer trydan.
Nid oes cysondeb yn y prisiau y mae'r cyflenwyr yn eu codi, er
enghraifft am anfon llythyrau. Mae pryder nad yw'r cyflenwyr
yn ystyried pa mor agored i niwed yw cwsmeriaid, er enghraifft,
gallai cwsmer anwybyddu llythyr gan eu cyflenwr oherwydd
salwch.
9.
Mae Ofgem am gryfhau rheoliadau blaendal diogelwch er mwyn dod
â’r drefn o dalu blaendal diogelwch i ben am osod a
datgysylltu mesuryddion talu ymlaen llaw. Mae’n debygol y
cynhelir ymgynghoriad ddiwedd yr hydref ac mae Ofgem yn annog
rhanddeiliaid i gymryd rhan a chyflwyno ymatebion.
10.
Gofynnwyd sut y mae cyflenwyr a swyddogion gwarantu yn
penderfynu bod cwsmeriaid yn agored i niwed pan fyddant yn cyrraedd
i osod mesuryddion. Er enghraifft, os oes gan y
perchennog gar drud ar y dreif, a ydynt yn tybio nad yw’r
cwsmer hwnnw’n agored i niwed? Bydd cyflenwyr yn
contractio’r warant allan i drydydd partïon ac
mae’r modd y caiff hyn ei weithredu’n amrywio. Yn aml
iawn, caiff cwsmeriaid eu hystyried yn agored i niwed os ydynt yn
cael gostyngiad Cartrefi Cynnes, yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf neu
os ydynt ar y Gofrestr Blaenoriaethu Gwasanaethau’r cyflenwr,
ond nodwyd bod sefyllfa cwsmeriaid yn aml yn newid oherwydd
argyfwng personol.
11.
Holwyd hefyd a yw cyflenwyr yn annog cwsmeriaid i gael
mesurydd talu ymlaen llaw yn hytrach na’u hannog i
ystyried posibiliadau eraill, a holwyd sut y gallai Ofgem fonitro
hyn. Mae safonau ymddygiad yn ganolog i hyn.
12.
Gofynnwyd hefyd faint o gwsmeriaid sy’n dewis mesurydd
talu ymlaen llaw er mwyn cyllidebu a dywedodd cynrychiolydd Nwy
Prydain fod 60% ohonynt yn cael eu gosod oherwydd dyledion.
Gofynnwyd hefyd a fyddai modd rhannu’r model a ddatblygwyd i
nodi cwsmeriaid sy’n agored i niwed, a dywedwyd bod y
cwmnïau rhwydwaith wedi cymryd yr awenau yn y cyswllt
hwn.
13.
Yna, gofynnodd Mark Isherwood i Andrew Regan, Swyddog Polisi
Cyngor ar Bopeth Cymru a Carole Morgan-Jones, Cyfarwyddwr, NEA
Cymru roi cyflwyniad ar y meysydd blaenoriaeth allweddol
roedd Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru am i Lywodraeth nesaf Cymru
weithredu arnynt i fynd i'r afael ag argyfwng cartrefi oer
Cymru. Yn y cyflwyniad, amlinellwyd y pum blaenoriaeth allweddol,
sef:
14.
Mae'r Gynghrair o blaid buddsoddi yn rhaglenni arbed ynni Nyth
ac Arbed ond mae’n teimlo y dylid buddsoddi rhagor yn y
rhaglenni hyn. Argymhellwyd hefyd y dylid newid y meini prawf
cymhwysedd gan ddefnyddio canlyniadau gwaith ymchwil Cyngor ar
Bopeth pan holwyd y cwsmeriaid hynny sydd ar incwm isel ac a gafodd
gymorth gan y cynlluniau, gan ganolbwyntio ar y rhwystrau
sy’n wynebu’r rhai sy’n gwneud cais am
gymorth.
15.
Dylid ehangu’r meini prawf cymhwyso ar gyfer y rhaglenni
hyn. Dylai’r rhai y mae tywydd oedd yn effeithio ar eu
hiechyd a theuluoedd sydd â phlant ifanc y gallai eu haddysg
ddioddef os yw’r cartref yn oer fedru gwneud cais am gymorth.
Nid yw’r plant yn y cartref yn cael eu cynnwys yn y cynllun
ar hyn o bryd.
16.
Mae angen gwella’r data ar gyfer stoc tai Cymru a hynny
ar fyrder, ac mae’r Gynghrair wedi galw am adroddiadau
blynyddol ar lefelau tlodi tanwydd. Soniwyd bod diffyg data
yng Nghymru yn her fawr ac roedd angen mynd i’r afael â
hyn.
17.
Galwodd y Gynghrair hefyd ar i Lywodraeth nesaf Cymru
fabwysiadu canllawiau NICE fel model parod i fynd i'r afael â
marwolaethau ychwanegol yn y gaeaf. Mae'r canllawiau’n
cynnwys deuddeg argymhelliad fel datblygu strategaeth gyffredinol
(fel Cynllun Tywydd Oer) i ymdrin â chanlyniadau cartrefi
oer, nodi'r rhai y mae eu hiechyd yn fwyaf tebygol o ddioddef,
asesu eu hanghenion gwresogi, sefydlu gwasanaeth cyfeirio ym maes
iechyd a thai, a sicrhau y gallant fanteisio ar raglenni
inswleiddio neu raglenni gwella systemau gwresogi a
grantiau.
18.
Yn ogystal â hyn, dylid hyfforddi amrywiaeth o unigolion
a sefydliadau sy'n dod i gysylltiad â theuluoedd sy’n
agored i niwed (gan gynnwys ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol,
gweithwyr tai proffesiynol, gweithwyr yn y sector gwirfoddol,
peirianyddion systemau gwresogi, a gweithwyr sy’n gosod
mesuryddion) i dynnu sylw at deuluoedd agored i niwed er mwyn eu
helpu i wresogi ac inswleiddio’u cartrefi. Mae'r
canllawiau yn cynnig y sail tystiolaeth fwyaf awdurdodol a
dibynadwy ynghylch sut y gall buddsoddi mewn mesurau iechyd
ataliol arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol a sicrhau gwasanaeth
iechyd cynaliadwy yng Nghymru.
19.
Galwyd hefyd am weithredu cronfa argyfwng ar gyfer Cymru gyfan
i wresogi cartrefi ar adegau o argyfwng yn ystod tywydd oer.
Un enghraifft yw Cynllun Gwres Fforddiadwy Sir y Fflint, sydd
â chronfa argyfwng a ddefnyddir i helpu pobl na allant
fforddio cynhesu eu cartrefi, drwy roi cymorth ariannol iddynt
drwsio’r bwyler neu brynu bwyler newydd, gosod neu wella
systemau gwresogi, er enghraifft. Ac, yn olaf, roedd y Gynghrair am
weld arian yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau annibynnol i roi
cyngor a chymorth i bobl mewn tlodi tanwydd ac roedd am i
gynlluniau newid cyflenwyr ar y cyd barhau i gael cymorth.
20.
Diolchodd Mark Isherwood i bawb am ddod i’r cyfarfod, a
nododd y dylai'r cyfarfod nesaf ystyried gwaith Grŵp Gwres
Fforddiadwy Sir y Fflint.